Anadlwch

Encil arfordirol

Dyma noddfa heddychlon yng nghalon harddwch Arfordir Treftadaeth Cymru.

Profiad

Dihangfa dawel wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Cymru

Mae’r sgubor wedi'i leoli ym mhentref hyfryd Yr As Fawr. Mae’n cynnig cyfuniad perffaith o sgubor wedi’i leoli yng nghefn gwlad Cymru ond sydd hefyd yn cynnig cartref cysurus a moethus.

Fe wnaethom ni gynllunio’r Ysgubor Twt gydag un egwyddor syml mewn golwg sef cynnig encil hardd, tawel lle gallwch chi ymlacio, anadlu'n ddwfn, a theimlo'n gartrefol. P'un a ydych chi yma i fwynhau antur trwy ddilyn y llwybr arfordirol, encil rhamantus, neu am fwynhau penwythnos tawel i ffwrdd, dyma eich lle i ymlacio, adfywio a mwynhau profiadau newydd.

Perffaith ar gyfer 4 gwestai

2 wely

1 ystafell ymolchi

Dianc

Ewch amdani

Dyma eich cyfle i brofi profiadau newydd mewn sgubor foethus sy’n mwynhau golygfeydd unigryw ar draws Aber Afon Hafren tuag at Gwlad yr Haf ond sydd hefyd yn cynnig cyfle i gerdded sawl llwybr arfordirol draw tuag at Sain Dunwyd i’r dwyrain ac Aberogwr tua’r gorllewin.

Darganfod

Anghofiwch y byd a’i ofidiau

Dyma beth sy'n gwneud Ysgubor Twt mor arbennig...

Golygfeydd tuag at Goleudy Nash Point

Teithiau cerdded arfordirol yn dechrau o garreg eich drws

Cwrt pwll tân awyr agored ar gyfer nosweithiau cysurus

Dwy dafarn draddodiadol gerllaw fel eich bod yn gallu cerdded yno

Lleoliad heddychlon, ond eto yn agos at atyniadau lleol

Arhosfan bws - munud o gerdded yn unig!

Cyfleusterau

Cynhyrchion glanhau

Sychwr gwallt

Siampŵ

Sebon y corff

Cyflyrydd

Gel cawod

Peiriant golchi

Sychwr dillad am ddim

Dillad gwely

Teledu

Gwres canolog

WiFi

Cegin

Pwll tân

Parcio am ddim ar y safle

Caniateir anifeiliaid anwes

Y gallu i gael mynediad

Ymlacio

Archebwch eich arhosiad ar

Rydym yn angerddol am greu gofod lle gall ein gwesteion ymlacio, adfywio a mwynhau profiadau newydd.